Mae lluniau sydd wedi’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod wal hanesyddol ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi cael ei adfer.

Bu criw o bobol ifanc wrthi yn ystod y nos yn ail-baentio’r arwydd eiconig ar ôl i’r enw ‘Elvis’ ymddangos ar y wal ger Llanrhystud, Ceredigion, dros y penwythnos.

Mae’r wal ar yr A487 yn coffáu un o’r digwyddiadau gwleidyddol mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru, gan gyfeirio at bentref Capel Celyn a gafodd ei foddi yn ystod yr 1960au er mwyn sicrhau cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl.

Cafodd yr arwydd gwreiddiol ei baentio gan y diweddar Meic Stephens, ac mae wedi cael ei adfer sawl tro dros y blynyddoedd yn sgil fandaliaeth.

Hyd yn hyn, mae dros 1,500 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu’r wal.