Mae llun ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod arwydd hanesyddol ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud wedi cael ei ddifrodi – a’i ddisodli gan y gair ‘Elvis’.

Mae’r wal hanesyddol ar yr A487 yn gofeb i un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru, pan gafodd pentref Capel Celyn ei foddi yn 1965 i sicrhau cronfa ddŵr i Lerpwl.

Mae’r gofeb, a gafodd ei phaentio gan Meic Stephens (yn wreiddiol heb dreiglo enw’r lle), wedi cael ei fandaleiddio sawl gwaith yn y gorffennol.

Mae llun ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y gofeb yn dwyn y gair ‘Elvis’.