Mae Heddlu’r De yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus yn dilyn cyfres o alwadau ffôn twyllodrus.

Mae’r sawl sy’n gyfrifol yn esgus bod yn blismyn yn Scotland Yard a heddluoedd eraill, meddai’r rhybudd.

Mae gofyn i’r rhai sy’n derbyn y galwadau roi eu manylion personol, gan gynnwys manylion eu banc, ac I gyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn cwblhau trafodion ariannol.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Cyngor

Mae Heddlu’r De yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus ac yn atgoffa’r cyhoedd na fyddai plismyn yn gofyn am arian nac yn trefnu cyfarfodydd er mwyn cyfnewid arian.

Mae rhybudd hefyd i beidio â rhoi manylion personol dros y ffôn, nac i wneud penderfyniadau byrbwyll nac ymateb i negeseuon e-bost amheus.

Dylid adrodd am unrhyw ddigwyddiadau drwy ffonio’r heddlu ar 101.

“Mae derbyn adroddiadau bod unigolion yn honni eu bod yn blismyn yn destun pryder,” meddai’r Uwch Arolygydd Andy Valentine.

“Fyddai plismyn sy’n gwasanaethu byth yn cysylltu ag aelod o’r cyhoedd nac yn mynd atyn nhw am arian.”