Mae ymgyrchwyr iaith yn dweud mai “trychineb ieithyddol” yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen i sefydlu corff cynllunio iaith a fyddai wedi bod yn rhan o ‘Fil y Gymraeg’.
Daw’r feirniadaeth yn sgil y cyhoeddiad na fydd y bil hwn, a oedd yn cynnwys cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg a chreu comisiwn yn ei le, yn mynd yn ei flaen.
Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, mae yna alw am gorff i arwain cynllunio ieithyddol yng Nghymru, gan ddilyn egwyddorion cynllunio iaith sydd wedi’u derbyn ledled y byd.
“Mae’r Llywodraeth wedi gwastraffu saith mlynedd trwy beidio hyrwyddo’r iaith yn iawn,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
“Ond maen nhw’n awr yn gwrthod mynd y cam nesaf angenrheidiol, sef cynllunio dyfodol y Gymraeg yn ôl egwyddorion cydnabyddedig.”
“Mae angen cynlluniau ar frys i gryfhau’r Gymraeg mewn cartrefi, ac i adeiladu cymunedau Cymraeg, ar lawr gwlad ac ym myd technoleg, ond does neb yn cymryd cyfrifoldeb am y darlun cyflawn.
“Mae syniadau gwallgo’r Llywodraeth, fel gwneud y Saesneg yn orfodol mewn cylchoedd chwarae Cymraeg, yn profi mor ddi-glem mae’r Llywodraeth o ran cynllunio iaith.
“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i greu corff mewnol i arwain ar gynllunio iaith, os nad yw’n fodlon creu corff hyd braich.
“Mae’r angen am gael arbenigwyr ieithyddol, yn lle gwleidyddion, yn amlwg.”