Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddan nhw yn cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, nac yn creu Comisiwn i wneud y gwaith o reoleiddio’r gwasanaethau sydd ar gael yn yr iaith.

Ym mis Awst 2017 fe gyhoeddodd y Llywodraeth bapur gwyn o’r enw ‘Bil y Gymraeg’ yn amlinellu’r bwriad i gael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg a chreu ‘Comisiwn y Gymraeg’ yn ei le.

Ar y pryd fe gafodd y syniad o newid y drefn groeso amodol gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Ym mis Awst 2017 fe ddywedodd Meri Huws ei bod hi’n croesawu creu un sefydliad i hybu a rheoleiddio “os bydd modd sicrhau adnoddau digonol i wireddu hynny ac annibyniaeth briodol i’r sefydliad”.

“Gwastraffu amser”

Ond wrth i’r Llywodraeth ymgynghori ar y Bil, bu Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru yn llafar yn erbyn newid y drefn.

Y llynedd fe gyhuddodd Cymdeithas yr Iaith y Llywodraeth o “wastraffu amser”.

“Yn lle defnyddio’u pwerau presennol i estyn hawliau i gael pethau fel ffonau symudol Cymraeg a gwasanaethau ynni, trên a bws yn Gymraeg, maen nhw’n gwastraffu amser ar ymdrech i wanhau hawliau iaith pobol,” meddai Osian Rhys y Cadeirydd yn 2018.

Mae yn croesawu’r tro pedol gan Lywodraeth Cymru.

“Os yw’n wir eu bod nhw’n gollwng eu cynlluniau i gyflwyno Deddf Iaith wannach, mi fyddai’n newyddion i’w groesawu’n fawr.

“Wrth reswm, mi fyddwn ni’n cadw llygad barcud i sicrhau na fydd dim ymdrechion i wanhau’r gyfundrefn reoleiddio.

“Mae angen i’r Llywodraeth fynd ati nawr i ganolbwyntio ar gyflawni eu gweledigaeth ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.”

Comisiynydd newydd

Ym mis Tachwedd 2018 daeth y cyhoeddiad mai’r cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts fydd Comisiynydd y Gymraeg o fis Ebrill ymlaen.

Mae yn olynu Meri Huws a fu’n gwneud y swydd ers 2012.

Datganiad y Llywodraeth

Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, wedi cyhoeddi’r datganiad yma ar wefan Llywodraeth Cymru:

‘Yn y Papur Gwyn, Taro’r cydbwysedd iawn, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynigion am Fil y Gymraeg newydd. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, yn ogystal â’r dystiolaeth ddiweddar oddi wrth nifer o randdeiliaid i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, mae’r Prif Weinidog, y Cabinet a minnau yn gytûn nad ydym am fwrw ymlaen i gyflwyno Bil y Gymraeg. 

Y ddau brif nod o’r cychwyn oedd torri lawr ar fiwrocratiaeth y system safonau’r Gymraeg, a sefydlu trefniadau priodol ar gyfer hybu defnyddio’r Gymraeg er mwyn cyrraedd yr amcanion uchelgeisiol yn ein strategaeth, Cymraeg 2050.  

Er yr anfodlonrwydd gyda rhai agweddau o’r safonau, mae’n glir nad oes awydd i newid y system yn ei chrynswth. Rwy’n hyderus bod modd torri lawr ar fiwrocratiaeth ac ymdrin â chwynion yn fwy effeithiol o fewn y ddeddfwriaeth bresennol.

Byddaf yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i weithredu newidiadau yn fuan. Yn ogystal, byddaf yn ail-gychwyn y rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd, cyn gynted ag y bydd yr amserlen deddfu ar gyfer Brexit yn eglur.

O ran cyrff preifat eraill, megis banciau ac archfarchnadoedd, bydd y Comisiynydd a minnau yn parhau i ymgynghori yn agos â nhw a’u gwthio i ddarparu mwy o wasanaethau, yn fwy cyson, yn y Gymraeg.

Mewn perthynas â threfniadau i hybu’r Gymraeg, byddaf yn trafod y ffordd orau ymlaen gyda rhanddeiliaid, gan edrych eto ar y ffordd y mae cyfrifoldebau wedi eu dyrannu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd.

Ni fyddaf yn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol nes i mi gael cyfle i drafod yr heriau a ddaw o hyn gyda’r Comisiynydd, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a rhanddeiliaid eraill.’

Comisiynydd yn croesawu’r tro pedol

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

“Rwy’n croesawu cyhoeddiad Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol heddiw na fydd yn cyflwyno Bil y Gymraeg.

“Mae ein gwaith ymchwil yn dangos fod safonau’r Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i brofiad defnyddwyr, gyda’r gwaith rheoleiddio ydym ni yn ei wneud yn fodd o hyrwyddo defnydd o’r iaith. Mae’n gadarnhaol iawn y byddwn nawr yn gallu parhau gyda’r gwaith o osod safonau ar ragor o sectorau, gan symud ymlaen gyda chyfundrefn sy’n gweithio.

“Roedd angen eglurder o ran y ffordd ymlaen, a heddiw rydym ni wedi cael hynny.  Bydd cyfle nawr i’r Comisiynydd newydd osod ei farc, ac adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud dros y saith mlynedd diwethaf.”