Mae perchennog gwesty o Bowys wedi gorfod talu dros £9,700 ar ôl cael ei ganfod yn euog o droseddau’n ymwneud â glendid bwyd.

Ymddangosodd David Williams, sy’n rhedeg Gwesty’r New Inn yn Llangynog o flaen Llys Ynadon Llandrindod ddoe (dydd Mercher, Ionawr 30).

Roedd y saith cyhuddiad yn ei erbyn yn cynnwys methu â chadw at safonau diogelwch bwyd a rhoi gwybodaeth ffug i swyddog archwilio.

Clywodd y llys fod swyddog iechyd yr amgylchedd wedi ymweld â busnes David Williams ym mis Mai 2018, gan ddod o hyd i sied a oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer storio bwyd.

Ar ôl llwyddo i gael mynediad i’r sied, gwelodd y swyddog fod llawer o’r bwyd a gafodd ei ganfod mewn deg oergell mewn cyflwr peryglus, gyda’r sied ei hun hefyd yn fudr.

Fe gafodd David Williams ei ddirwyo £7,050 am y saith trosedd, yn ogystal â’i orchymyn i dalu £117 ychwanegol.