Mae cwricwlwm newydd Cymru’n “anelu saeth at galon addysg Gymraeg” drwy orfodi Saesneg ar blant bach, yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith.

Mae papur gwyn Llywodraeth Cymru’n nodi y bydd rhaid i addysg sydd wedi’i chyllido, gan gynnwys cylchoedd meithrin, ddysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm, yn groes i’r drefn bresennol lle mae modd ei dysgu’n raddol ar ôl saith oed.

Ac mae’r cynllun, meddai’r mudiad, yn mynd yn groes i darged Llywodraeth Cymru o sicrhau Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2030.

“Mae’r cymal hwn yn anelu saeth at galon addysg Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad.

“Mae’r cyfnod sylfaenol yn dyngedfennol o safbwynt dysgu. Rhaid mynnu ar ofod arbennig i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn os ydym am i’n plant ddysgu a dod yn rhugl yn y Gymraeg.

“Ni allaf feddwl am unrhyw gynsail i’r fath gynnig; yn wir, mae’r Papur Gwyn yn cydnabod ei hun nad yw’r Saesneg yn bwnc sydd angen y fath statws statudol.

“Ffolineb arall, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth yn dadwneud yr ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg ac yn tanseilio ei nod o greu miliwn o siaradwyr.

“Ni allwn dderbyn y fath ergyd hurt. Mae’n gam digyffelyb i’r gorffennol, ac yn tanseilio rhai o egwyddorion sylfaenol addysg Gymraeg.”