Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i fynnu bod y Prif Weithredwr neu’r Brif Weithredwraig newydd yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Daw’r alwad yn sgil y cyhoeddiad bod y Prif Weithredwr presennol, Mark James, yn bwriadu camu o’r neilltu ym Mehefin, a hynny wedi 17 mlynedd o fod wrth y llyw.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen i’r cyngor sir beidio â cheisio “mewnforio o du allan” wrth chwilio am olynydd, a bod angen rhoi cyfle i unigolyn “sydd wedi dangos ymrwymiad at Sir Gaerfyrddin neu ardal debyg ac yn rhugl yn y ddwy iaith.”

Maen nhw’n cyfeirio at esiampl Cyngor Sir Ceredigion, a nododd yn yr hysbyseb am Brif Weithredwr newydd ddwy flynedd yn ôl fod y gallu i gyfathrebu’n Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.

Cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg

“Yn y cyfnod diweddar wrth hysbysebu swyddi swyddogion uwch, gan gynnwys cyfarwyddwyr, bu gofyn am Saesneg lefel 5 a Chymraeg lefel 2,” meddai llythyr gan yr ymgyrchwyr at Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole.

“Dyna anfon arwydd anffodus mai Saesneg yw iaith ddifrifol y Cyngor gyda defnydd symbolaidd yn unig o’r Gymraeg…

“Byddai gofyn am sgiliau cyfathrebu a gweinyddu’n Gymraeg Lefel 5, yn arwydd o’r lefel uchaf o ymrwymiad at y gymuned leol a’i diwylliant.

“Gobeithio felly bydd gofynion swydd Prif Weithredwr yn adlewyrchu hynny.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ymateb.