Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth y diwydiant coed fod yna “newidiadau mawr” ar y gweill ynglŷn â sut mae’r diwydiant yn cael ei reoli.

Daw hyn yn dilyn llythyr a gafodd ei ryddhau yr wythnos ddiwethaf sy’n datgelu bod gan 10 o gwmnïau pren yng Nghymru ddiffyg hyder yn y corff amgylcheddol o ran ei ymwneud â choedwigaeth.

Ond mewn cyfarfod ar gyfer cwsmeriaid yn Llanelwedd heddiw (dydd Llun, Ionawr 28), mae Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Clare Pillman, wedi dweud bod mesurau i wella llywodraethu gweithrediadau coed y sefydliad eisoes ar y gweill.

Ychwanegodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i ddatblygu “perthynas waith agosach” â’r diwydiant, yn ogystal â chreu “ffyrdd newydd o weithio”.

 “Newid ar droed”

“Dyma’r dechrau,” meddai Clare Pillman. “Nid yw’n ddim mwy na hynny ar hyn o bryd. Ond rydym eisoes yn gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydym yn gweithio.

“Er enghraifft, bydd newidiadau strwythurol ar lefel uwch yn golygu y bydd y rhan hon o’n busnes yn cael ei rheoli mewn modd a fydd yn arwain at fwy o ddidwylledd ac atebolrwydd.

“Rwy’n gobeithio y gall y diwydiant gefnogi’r newidiadau hynny er mwyn sicrhau bod y darlun cyflawn yn fwy tryloyw ac effeithlon.”