Mae dros 200 o fusnesau wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn creu cynlluniau i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r cwmnïau rheiny wedi derbyn y cymorth trwy ‘Cymraeg Byd Busnes’, sef gwasanaeth di-dâl i fusnesau sy’n cael eu hariannu gan y Llywodraeth.
Nod y fenter yw cynyddu’r nifer o fusnesau sy’n defnyddio’r Gymraeg, gyda’r gobaith o annog rhagor i siarad yr iaith yn eu cymunedau.
Trwy ‘Cymraeg Byd Busnes’ mae cwmnïau hefyd yn medru defnyddio gwasanaeth cyfieithu di-dâl, a hyd yma mae 140 busnes wedi manteisio ar hynny.
Anelu at 2050
“Mae cael busnesau preifat yn hanfodol i lwyddiant Cymraeg 2050,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, yn cyfeirio at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ond mae’r gwaith mae Cymraeg Byd Busnes wedi’i wneud hyd yn hyn yn dangos bod busnesau’n barod i ymgysylltu.”