Mae Cynghorydd yng Nghaerdydd wedi ennyn ymateb chwyrn ar ôl galw am gael gwared ar bebyll y digartref o ganol y ddinas.

Mewn llun ar Twitter mae Kathryn Kelloway, Cynghorydd Ceidwadol Ward Cyncoed, i’w gweld yn sefyll o flaen pebyll ar Stryd y Frenhines.

Ac ynghyd â’r llun hwnnw mae yna neges i Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas.

“Cynghorydd Thomas, os ydych eisiau i ganol ein dinas fod yn ddiogel, os ydych eisiau i fusnesau lleol ffynnu, os ydych eisiau gwell delwedd i Gaerdydd; dewch i Stryd y Frenhines,” meddai.

“Cynghorydd Thomas, rhwygwch y pebyll yma i lawr”

Bellach, mae tua 1,700 wedi gadael sylwadau, gyda swm helaeth o’r rheiny yn beirniadu’r Cynghorydd.

Beirniadaeth

“Pobol yw’r rhain, nid cyfle i dynnu llun”, meddai un ar twitter, gydag un arall yn galw’r neges yn “ddirmygus”.

Mae sawl un wedi beirniadu geiriad ei sylw, ac mae sawl un arall yn ymosod ar ei phlaid a’u polisïau hwythau.

“Dw i’n gweithio yng nghanol dinas Caerdydd, a phob dydd dw i’n gweld pobol sydd wedi’u heffeithio gan fesurau cyni llofruddiog y Llywodraeth Dorïaidd,” meddai u..

“Mae’r wladwriaeth wedi cefnu ar y bobol yma, a’u gadael i farw ger drysau. Ac rydych chi eisiau dwyn yr ychydig ddeunydd sydd yn eu cysgodi? Gwarth!”