Artist o Wlad Thai a gafodd ei enwi’n enillydd y wobr Artes Mundi 8 mewn seremoni yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, neithiwr (nos Iau, Ionawr 24).

Fe dderbyniodd Apichatpong Weerasethakul y wobr gwerth £40,000, sy’n cydnabod gwaith artistiaid rhyngwladol, am ei waith ffilm, gyda’r beirniaid yn ei ddisgrifio’n “arf pwerus ar gyfer adegau cythryblus”.

Mae’r artist 48 oed eisoes wedi cael ei anrhydeddu am ei waith yng Ngŵyl Ffilm Cannes, Ffrainc, ac mae hefyd yn enwog am gyfarwyddo ffilmiau nodwedd.

Mae’r ffilm fuddugol, Invisibility, yn cynnwys 12 munud o gysgodion a silwetau rhwng datganiadau barddonol.