Mae Cofis wedi cael eu synnu ar ôl gweld lluniau o strydoedd tref Caernarfon yn ymddangos mewn hysbyseb gan gwmni ceir moethus.

O dan y capsiynau ‘Envy isn’t always green’ a ‘Lead yourself astray’, mae lluniau wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys dau Jaguar F-Type Coupé – un oren ac un arian – yn cael eu gyrru ar hyd y stryd fawr o dan y cloc.

Mae modd gweld rhai busnesau yn y cefndir hefyd, gan gynnwys bwyty Tŷ Castell, siop barbwr Blades, ynghyd â swyddfa’r gangen leol o Undeb Amaethwyr Cymru.

Llun o’r hen lys y goron sydd i’w weld dan y pennawd ‘Lead yourself astray’.