Mae nifer o ysgolion yng ngogledd a chanolbarth Cymru wedi gorfod cau heddiw (Dydd Mercher, Ionawr 23) o ganlyniad i eira a rhew.
Ar hyn o bryd, mae rhai ysgolion yn siroedd Conwy, Y Fflint, Ceredigion, Gwynedd, Dinbych, a Phowys wedi dweud wrth eu disgyblion i aros adref.
Mae llawer o ddisgyblion a staff wedi cael trafferthion i gyrraedd eu hysgolion.
Dyma restr o’r ysgolion sydd wedi cau:
Conwy:
Ysgol Llannefydd, Dinbych
Ysgol Bro Aled, Llansannan, Dinbych
Ysgol Pencae, Penmaenmawr ynghau oherwydd does dim cyflenwad dwr ar y safle.
Y Fflint:
Ysgol Bro Carmel, Treffynnon
Ceredigion:
Ysgol Henry Richard, Tregaron
Gwynedd
Ysgol Y Berwyn, Y Bala
Dinbych:
Ysgol Tremeirchion, Llanelwy
Ysgol Betws Gwerful Goch, Corwen
Powys:
Ysgol Uwchradd Caereinion, Llanfair Caereinion
Ysgol Llanfair Caereinion C.P
Ysgol Pennant, Pen-y-bont-fawr
Bydd golwg360 yn cadw llygaid ar unrhyw fanylion pellach am ysgolion sydd ynghau oherwydd y tywydd.