Fe fu sawl gwrthdrawiad ar nifer o ffyrdd yn y de heddiw (dydd Mercher, Ionawr 23) o ganlyniad i’r tywydd rhewllyd.
Mae’r gwasanaethau brys yn ymateb ar hyn o bryd i wrthdrawiad difrifol ar yr A465 (Blaenau’r Cymoedd) rhwng Aberdulais a Resolfen.
Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad, a thraffig yn drwm wedi digwyddiad am 6.30yb.
Mae rhybudd i deithwyr gadw draw am y tro.
M4
Roedd oedi hir rhwng cyffordd 36 (Sarn) a chyffordd 35 (Pencoed) yr M4 yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn gynharach heddiw.
Roedd hynny o ganlyniad i gar yn taro coeden ger cyffordd 35, a gwrthdrawiad arall yn yr ardal.
Roedd trydydd gwrthdrawiad rhwng cyffordd 37 (Y Pîl) a chyffordd 36 (Sarn).
Ar y ffordd allan o Abertawe, roedd deg cerbyd mewn gwrthdrawiad â’i gilydd ar Ffordd Fabian toc ar ôl 6.35yb.