Dyn wedi saethu at yr heddlu mewn digwyddiad yn Llyn Efyrnwy
Gwefan yr Heddlu
Car yr heddlu
Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i archwilio tŷ ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys ar ôl i ddyn danio gwn at yr heddlu ddydd Llun (21 Ionawr).
Bu’n rhaid i’r heddlu gau lonydd a galw arbenigwyr arfog i’r lleoliad ger Llyn Efyrnwy i ddelio gyda’r digwyddiad.
Mae dyn 44 oed o ardal Kidderminster wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio a throseddau yn ymwneud a gynnau.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 10:50 bore dydd Llun yn dilyn pryderon am les y dyn. Ar ôl i’r heddlu gyrraedd, fe ddechreuodd y dyn danio gwn at swyddogion. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Cafodd hofrennydd ac arbenigwyr yr heddlu eu galw a chafodd y dyn ei arestio ar ôl y digwyddiad a’i gludo i’r ysbyty.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.