Mae’r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi galw ar Lywodraeth Cymru heddiw (Dydd Mawrth, Ionawr 22) am ddatganiad brys yn ymwneud a Wylfa Newydd a sefyllfa economaidd gogledd Cymru.

Fe gyhoeddodd cwmni niwclear Hitachi o Japan wythnos diwethaf eu bod yn gohirio eu rhaglen i ddatblygu Wylfa Newydd yn Ynys Môn.

“Mae’n werth gofyn heddiw pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i lunio cynllun gweithredu ar gyfer cyhoeddiad o’r fath – tybed os allwch chi danlinellu’r cynlluniau hynny?” gofynnodd Rhun ap Iorwerth.

“Beth bynnag sydd yn cael ei wneud am y cynllun gweithredol yma – maen amlwg bod angen gwneud i fyny am beth sy’n cael ei golli, o leiaf yn y tymor byr.”

 “Ergyd i genedlaethau”


Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod colli Wylfa Newydd yn “ergyd i genedlaethau o bobol ifanc ar draws Ynys Môn.”

“Maen nhw angen gweld rŵan bod popeth yn cael ei wneud i fuddsoddi yn eu dyfodol nhw.”

“Felly a wneith y gweinidog, sydd wedi rhoi arwyddion o hyn yn barod wneud ymrwymiad i fuddsoddi rhagor rŵan yng Nghynllun Twf y Gogledd?”

Mae £120 miliwn o bunnoedd wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru yn barod, yn ogystal â’r un swm gan Lywodraeth Prydain.

Ond “mi fydd angen cynyddu’r swm hwnnw yn sylweddol”, dywedodd Rhun ap Iorwerth.

 “Angen gweithio gyda’n gilydd”

 “Roeddwn i yn barod wedi rhoi’r caniatâd i ddatblygiad cynllun rhanbarthol i Ogledd Cymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates

“Mae’r cynllun hwnnw yn cael ei ddatblygu wrth inni gwrdd yma heddiw, ac wrth gwrs mi fyddwn yn cymryd i ystyriaeth y sefyllfa rydym ynddi heddiw.”

O ran cyflwyno model newydd i gyllido Wylfa Newydd, dywedodd Ken Skates bod “angen i ni gyd wneud beth allwn ni gyda’n gilydd yma, yng Ngogledd Cymru, yn Llywodraeth Prydain, wrth weithio gyda Horizon i sicrhau bod y prosiect, os yw’n gallu, yn mynd yn ei flaen.”

Bydd adroddiad ac adolygiad o gyllido Wylfa Newydd yn cael ei gyflwyno erbyn yr haf, meddai wedyn.