Mae cyn-drysorydd ac ymgeisydd Plaid Cymru, Nigel Copner, a ddaeth yn agos iawn at gipio sedd Blaenau Gwent oddi ar Lafur yn 2016, wedi gadael y blaid.

Mewn datganiad ar wefan Facebook, mae’r Athro Nigel Copner – sy’n gweithio yn adran Beirianneg Prifysgol De Cymru – wedi dweud ei fod yn gadael a hynny’n bennaf oherwydd safiad Plaid Cymru ar annibyniaeth.

“Roedd y Blaid yn ymddangos yn dîm a fyddai’n rhoi buddiannau pobol Cymru yn gyntaf a sicrhau bod democratiaeth a gonestrwydd yn parhau,” meddai Nigel Copner ar Facebook, cyn datgan “roeddwn yn anghywir.”

Ychwanegodd: “Nid yw annibyniaeth i Gymru ar hyn o bryd yn ymarferol yn economaidd ac mae gwthio hyn ar hyn o bryd yn gwneud i bobl golli ymddiriedaeth yn y blaid,” meddai.

“Rwyf o blaid ymladd dros Gymru ond mae’r safbwynt yma ar annibyniaeth yn hynod o ffôl ar hyn o bryd. Trawsnewid yr economi, trawsnewid rhagolygon pobl – ond rhaid i’r bobl benderfynu.”

Brexit

Mae Nigel Copner hefyd yn dweud ei fod yn teimlo’n rhwystredig gyda safbwynt Brexit Plaid Cymru oherwydd bod y blaid wedi mynd “yn groes i ddymuniadau’r pleidleiswyr.”

Mae’n honni “dylai’r man cychwyn fod wedi bod i gefnogi pob ymdrech i wneud gwaith Brexit.”

“Os yw Brexit yn edrych yn niweidiol, fel y mae hi nawr, mae’n rhesymol mynd a hi yn ôl at y bobol. Rydw i nawr yn credu mai pleidlais i’r bobol yw’r ffordd orau o weithredu ond nawr ydi hynny!”

Yn ychwanegol, yn ôl Nigel Copner, roedd llawer o benderfyniadau Plaid Cymru yn “ddiffygiol yn ddemocrataidd” a’i fod yn “gallu rhestru” y rhain yn ymwneud a’r “datgysylltiad difrifol rhwng yr hyn sy’n cael ei ddweud a’r penderfyniadau.”

“Siomedig”

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru heddiw yn sgil y newyddion bod Nigel Copner wedi gadael:

“Mae’n siomedig gweld unrhyw aelod yn gadael y blaid, yn enwedig pan fo miloedd wedi ymuno â ni yn ddiweddar. Diolchwn i Nigel am ei wasanaeth i Blaid Cymru ac rydym yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”

Cefndir

Fe ymddiswyddodd Nigel Copner o’i swydd fel Trysorydd Cenedlaethol Plaid Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd.

Ar y pryd, honnodd fod ei blaid leol ym Mlaenau Gwent wedi cael ei fygwth gan Leanne Wood yn ystod y ras am arweinyddiaeth y blaid.

Dywedodd fod carfan Leanne Wood wedi dweud wrtho am “anghofio am unrhyw help wrth fynd ymlaen” pe bai’n cefnogi Rhun ap Iorwerth.

Doedd Leanne Wood ddim yn ymwybodol o’r sylwadau yn ôl ei llefarydd ar y pryd.

Dod yn agos

Daeth Nigel Copner yn ail i Alun Davies AC wrth sefyll am sedd Blaenau Gwent yn Etholiadau’r Cynulliad 2016 gyda 7,792 pleidlais (36.6%) yn erbyn 8,442 pleidlais Alun Davies (39.7%).

Roedd hyn yn syndod i Lafur ar y pryd gan fod y sedd honno yn un sefydlog iddyn nhw.

Roedd Nigel Copner wedi sefyll unwaith eto yn 2017 yn yr Etholiad Cyffredinol, ble ddaeth yn ail i Nick Smith o’r Blaid Lafur gyda 21.2% o’r bleidlais.