Mae’r ffigyrau swyddogol diweddaraf yn dangos bod 62,000 (3.9%) o bobol yng Nghymru yn ddi-waith.

Bu cynnydd o 3,000 ers y chwarter blaenorol rhwng misoedd Mehefin ac Awst.

Y ffigwr ar gyfartaledd ar gyfer y di-waith yng ngwledydd Prydain yw 4%, tra bo’r nifer o bobol sydd mewn gwaith wedi cynyddu 141,000 i 32.5m yn ystod y tri mis yn arwain at fis Tachwedd.

Ymhlith y rhesymau tros y cynnydd yn nifer y bobol sydd mewn gwaith neu’n ddi-waith, yn ôl arbenigwyr, yw twf ym mhoblogaeth gwledydd Prydain.

Mae llai o bobol hefyd yn cael eu hystyried yn anweithredol yn economaidd, sef naill ai ar gyfnod o salwch, yn fyfyrwyr  neu wedi rhoi’r gorau i chwilio am swyddi.

“Ardderchog”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns bod cyfradd cyflogaeth Cymru yn cyfateb â ffigur y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf ers i gofnodion ddechrau:  “Unwaith eto mae Cymru wedi cynhyrchu set ardderchog o ffigurau cyflogaeth, yn gosod record newydd sbon o dros 1.5 miliwn o bobl mewn gwaith.

“Mae hyn yn dyst i waith Llywodraeth y DU i greu amgylchedd i ddenu mewnfuddsoddiad, tyfu busnesau a darparu cyflogaeth gynaliadwy.

“Ein huchelgais yw gweld pob rhan o’r DU yn ffynnu.

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos tuedd positif yn uchelgais economi Cymru ac rwy’n gobeithio y bydd yn parhau dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”