Mae cadarnhad wedi dod gan Awdurdod Hedfan Sifil Ffrainc bod y pêl-droediwr Emiliano Sala ar awyren fechan aeth ar goll wrth deithio o Lydaw i Gaerdydd neithiwr.

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a oedd newydd arwyddo’r  chwaraewr o’r Ariannin, wedi dweud eu bod yn “bryderus iawn” ynghylch ei ddiogelwch.

Mae timau achub wedi bod yn chwilio am yr awyren fechan ers neithiwr (nos Lun, 21 Ionawr), wedi iddi ddiflannu oddi ar y radar am 8.30yh wrth deithio dros y Sianel. Roedd wedi gadael Nantes am 7.15yh.

Mae’n debyg bod cais wedi cael ei wneud i lanio wrth i’r awyren hedfan heibio Guernsey ond bod swyddogion rheoli traffig awyr yn Jersey wedi colli cysylltiad gyda’r awyren yn fuan wedyn.

Chwilio

Bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwilio am 2yb oherwydd gwyntoedd cryfion, gan ail-ddechrau am 8 y bore ma, meddai’r heddlu yn Guernsey.

Maen nhw wedi bod yn defnyddio hofrenyddion a badau achub i chwilio am yr awyren ond wedi methu dod o hyd iddi hyd yn hyn.

Roedd yr awyren yn teithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd, gyda dau deithiwr ar ei bwrdd.

“Pryderus iawn”

Roedd Emiliano Sala, yr ymosodwr 28 oed, newydd arwyddo i’r clwb ddydd Sadwrn.

Mae’n debyg bod Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi talu tua £15 miliwn am y pêl-droediwr a oedd yn chwarae i Glwb Pêl-droed Nantes. Roedd disgwyl iddo ddechrau ymarfer efo’r clwb heddiw.

“Rydym yn bryderus iawn ynghylch y newyddion diweddaraf bod awyren fechan wedi colli cysylltiad dros y Sianel neithiwr,” meddai cadeirydd y clwb, Mehmet Dalman.

“Rydym yn pryderu’n fawr am ddiogelwch Emiliano Sala.”

Dirgelwch

 Dydy timau achub ddim yn disgwyl dod o hyd i oroeswyr wrth chwilio am yr awyren goll, yn ôl un o’r achubwyr.

Dywed John Fitzgerald o Dîm Awyr Ynysoedd y Sianel fod y dirgelwch ynghylch diflaniad yr awyren fechan yn parhau.

Mae’r awyren “wedi diflannu’n hollol”, meddai. “Doedd yna ddim sgwrs radio.”

“Bachgen hoffus”

Mae Llywydd Clwb Pêl-droed Nantes, Waldear Kita, wedi ei ddisgrifio’n “fachgen cwrtais, da a hoffus”.

“Dw i’n meddwl am ei deulu a’i ffrindiau,” meddai’r gŵr busnes o Wlad Pwyl wrth CNews yn Ffrainc.

“Dw i’n gobeithio nad yw pethau drosodd a’i fod e yn rhywle. Yn wir, mae’n fachgen hoffus iawn.”

Gohirio gêm

 Yn dilyn y newyddion am Emiliano Sala, mae gêm nesaf Clwb Pêl-droed Nantes, a fyddai wedi cael ei chynnal yfory (dydd Mercher, Ionawr 22), wedi’i gohirio.

Roedd disgwyl i’r clwb wynebu L’Entente SSG mewn rownd o’r gystadleuaeth Coupe de France. Bydd y gêm bellach yn cael ei chynnal ar Ionawr 27.

Wrth gyhoeddi’r diweddariad ar y We, mae L’Entente SSG wedi cydymdeimlo â Chlwb Pêl-droed Nantes a theulu Emiliano Sala.

Mae’r clwb hefyd yn dweud bod y rheiny a oedd ar fwrdd yr awyren ym “meddyliau pawb”.