Mae cynnydd wedi bod yn yr arian sy’n cael ei wario ar staff dros dro’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (GIG), meddai Swyddfa Archwilio Cymru.

Yn ôl  adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar wariant y GIG ar staff asiantaeth, mae cynnydd amlwg wedi bod yng Nghymru ac ar draws Ynysoedd Prydain.

Mae’n dangos hefyd bod tua 80% o wariant ar staff asiantaeth yn mynd tuag at lenwi swyddi gwag dros dro.

Heriau i’r GIG

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol bod yr adroddiad yn “cyfeirio at y gwaith y mae’r GIG yn ei wneud gyda’r nod o leihau nifer y staff asiantaeth.”

“Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd er mwyn gwella’r ffordd y caiff gwariant ar staff asiantaeth ei reoli,” meddai.

Yn ôl Nick Ramsay, nid yw’r data yn ddigon cyson a chynhwysfawr eto i ddeall yn iawn y problemau mae’r GIG wirioneddol yn ei wynebu.

“Mae mentrau blaenorol a phresennol i reoli gwariant ar staff asiantaeth wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr ond mae eu cynnydd weithiau wedi’i lesteirio gan yr angen i sicrhau consensws a gorddibyniaeth ar ewyllys da gan gyrff iechyd unigol,” ychwanegodd.

Bydd y Pwyllgor yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law ac efallai y bydd yn penderfynu cymryd tystiolaeth bellach ar y canfyddiadau.

Mae’r canfyddiadau diweddaraf hyn yn amlwg yn berthnasol yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor yn 2018 i effaith Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.