Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cyrraedd lefelau uchel newydd, yn ôl arbenigwyr.

Mae’r Mynegai Pris Tai gan Gymdeithas Adeiladu Principality yn dangos bod tŷ yng Nghymru yn costio ar gyfartaledd £186,699 ar hyn o bryd, sef £2,000 yn fwy na’r lefel uchel a gafodd ei gofnodi ym mis Medi’r llynedd.

Er bod twf wedi arafu i 0.3% ar ddiwedd 2018, mae nifer y gwerthiannau – sef tua 48,000 – yr un fath ag yr oedd yn 2017.

Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn prisiau tai mae Torfaen (8.7%), Caerffili (7.5%), Baenau Gwent (7.2%), Casnewydd (6.5%) a Sir Fynwy (6.1%). Bu cynnydd o 6% ym Mro Morgannwg hefyd.

Yn ôl yr arbenigwyr, mae’n bosib bod diddymu tollau Pont Hafren wedi cyfrannu at y cynnydd yn y siroedd hyn.

“Sawl reswm posib”

“Mae sawl rheswm posib pam mae prisiau tai Cymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed,” meddai Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu Principality.

“Mae cyfraddau llog ar hyn o bryd yn agos at y lefelau isaf erioed; mae nifer y bobol mewn gwaith ar ei lefelau uchaf erioed, tra bo cyfartaledd yr enillion wythnosol wedi cynyddu y tu hwnt i lefel chwyddiant.

“Mae cynlluniau tai Llywodraeth Cymru hefyd wedi helpu perchnogion tai y dyfodol i gyrraedd yr ysgol dai.”

Y tri awdurdod lleol sydd wedi gweld cwymp mewn prisiau tai mae Sir Benfro (-1.4%), Sir Ddinbych (-1.9%) a Chastell Nedd Port Talbot (-2.4%).