Mae banc HSBC dan y lach am gynghori cwsmer oedd wedi ysgrifennu llythyr yn Gymraeg i anfon gohebiaeth yn Saesneg yn hytrach na “iaith dramor”.
Mae’r Guardian yn adrodd fod llythyr Nia Lloyd o Wrecsam yn tynnu sylw at ddiffyg gwasanaethau yn Gymraeg ar wefan y banc.
“Ces i fy synnu y bydden nhw’n ymateb i fy nghwyn yn y modd yna,” meddai wrth y papur.
“Ro’n i’n meddwl y byddai gan y banc fwy o barch at y Gymraeg.
“Dylen nhw ddathlu holl ddiwylliannau a ieithoedd hardd y byd.”
Llythyr gwreiddiol yn Gymraeg
“Hoffwn gwyno am y ffaith nad yw eich gwasanaethau bancio ar y we ar gael yn y Gymraeg,” meddai yn ei llythyr gwreiddiol yn Gymraeg.
“Rydw i, fel nifer fawr o gwsmeriaid eraill, am fedru bancio ar y we yn Gymraeg.
“Gyda llai a llai o wasanaethau ar gael mewn canghennau, a galw cynyddol am wasanaethau bancio ar y we, rwy’n credu y dylech ddarparu gwasanaethau llawn ar y we yn Gymraeg.
“Mae hynny’n cynnwys rhyngwyneb bancio ar y we sy’n gweithio’n llawn yn Gymraeg.”
Ateb y banc
“Rwy’n sylwi ein bod ni wedi derbyn y neges hon mewn iaith dramor,” meddai ateb y banc yn Saesneg.
“Rwy’n gofyn yn garedig i chi anfon y neges yn Saesneg a byddem yn hapus i’ch helpu chi ymhellach.
“Rwy’n ymddiheuro’n daer am yr anghyfleustra i chi.”
Atebodd Nia Lloyd drwy ddweud ei bod hi’n byw yn Wrecsam yng Nghymru, lle mai’r “Gymraeg yw ein hiaith, ac felly nid yw’n dramor yn fy ngwlad”.
Wrth ymddiheuro, dywedodd y banc y dylai’r ohebiaeth fod wedi mynd at eu hadran Gymraeg.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod yr ateb gan y banc yn “sarhaus ond nid yn annisgwyl”, a bod banciau’n “amharchu Cymry Cymraeg bob dydd”.