Mae’r heddlu’n apelio ar ôl i ddyn yn ei 70au farw yng Nghastell-nedd.

Ei gerbyd e, car Peugeot 406 lliw arian, oedd yr unig un yn y digwyddiad ar Riverside Drive y dref, ger siop B&M.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 10yb ddoe (dydd Gwener, Ionawr 18).

Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu â Heddlu’r De ar 101.