Mae un o undebau’r ffermwyr yng Nghymru yn dweud eu bod nhw’n “siomedig” na fydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gweithredu yn erbyn Llywodraeth Cymru am ryddhau manylion personol ffermydd.

Fis Gorffennaf y llynedd, cafodd enwau a chyfeiriadau ffermydd oedd wedi eu dewis ar gyfer difa moch daear eu rhyddhau yn ddamweiniol gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, cafodd y wybodaeth hon ei roi ar gyfryngau cymdeithasol wedyn, gyda “rhai eithafwyr gwrth-ddifa yn galw am ymgymryd ag ymddygiad a allai fod wedi bygwth diogelwch teuluoedd ffermio”.

“Diffyg ymateb”

“Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi dulliau gweithredu ar waith i leihau’r tebygrwydd y bydd y camgymeriad hwn yn digwydd eto ac rydym yn gobeithio bod yna wersi wedi cael eu dysgu,” meddai Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi FUW.

“Fodd bynnag, mae’r diffyg ymateb mwy cadarnhaol gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ddim yn lleddfu’r posibilrwydd o hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhyddhau’r fath wybodaeth yn fwriadol neu’n anfwriadol yn debygol o arwain at dargedu gan eithafwyr hawliau anifeiliaid, gan gynnwys gweithgarwch anghyfreithlon a bod bygythiadau’n cael eu gwneud.”