Mae ymgyrchwyr yn galw am wario £10m ar hyfforddi athrawon i fedru dysgu’r iaith Gymraeg i blant.

Daw’r alwad gan Dyfodol yr Iaith yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd Cymraeg ail iaith yn cael ei dileu.

Mae’r mudiad yn dweud bod angen dilyn esiampl Gwlad y Basgiaid trwy gynnig “buddsoddiad sylweddol” yn y maes hyfforddi athrawon.

“Ar hyn o bryd, ysgolion Cymraeg sy’n dysgu pynciau trwy’r Gymraeg yw’r unig fodel sy’n cyflwyno’r Gymraeg a’r Saesneg yn llwyddiannus i bob disgybl,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol yr Iaith.

“Dyw dysgu’r Gymraeg fel pwnc ddim yn ddigon – mae’n rhaid dysgu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fydd ysgolion Cymru ddim yn gallu gwneud hyn heb fod cynnydd mawr yn nifer yr athrawon Cymraeg sydd â chymhwyster yn yr iaith, a chynnydd mawr yn nifer yr athrawon pwnc sy’n gallu dysg trwy gyfrwng yr iaith.

“Mae’n rhaid i ni ddilyn patrwm Gwlad y Basgiaid, lle rhoddwyd buddsoddiad enfawr i gael athrawon â sgiliau ieithyddol digonol. Heb wneud hyn, mae perygl y bydd gobeithion y Gweinidog yn mynd i’r gwellt.”