Mae dynes wedi cael ei lladd mewn digwyddiad rhwng cyffordd 2 Y Fali, a chyffordd 3 Caergybi am 12.30 ddoe (dydd Iau, Ionawr 17).

Fe gafodd ambiwlans awyr ei alw yno ond cyhoeddwyd bod y ddynes, sydd heb ei henwi, wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae gyrrwr Vauxhall Corsa wedi cael ei ddanfon i’r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn ddifrifol.