Fe gafodd yr heddlu eu galw i Stryd y Gorfforaeth yn Aberystwyth am 4.20 y bore yma wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad o ymosodiad.

Cafodd yr heddlu aeth yno wybod ei bod yn bosib bod rhywun â dryll mewn eiddo ar Stryd y Dollborth, felly fe gafodd heddlu arfog eu galw yno.

Fe gafodd dyn ei arestio “yn gyflym” meddai’r heddlu, ar amheuaeth o ymosod a bygwth lladd, ac mae yn parhau yn y ddalfa.

Wrth chwilio ar y safle daeth yr heddlu o hyd i ddryll ffug.

Bellach mae’r heddlu arfog wedi gadael y safle.

Fe gafodd traffig ei ddargyfeirio yn ystod y digwyddiad ond bellach mae’r ffordd ar agor eto.