Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ymweld ag Ynys Môn heddiw (dydd Gwener, 18 Ionawr) ddiwrnod wedi’r cyhoeddiad bod Hitachi yn gohirio eu cynlluniau i godi atomfa Wylfa Newydd.

Dywedodd Alun Cairns ddoe nad oedd y cyhoeddiad yn “golygu diwedd i’r cyfleoedd yn Wylfa” a bod “potensial yn y safle”.

Ychwanegodd bod Llywodraeth San Steffan yn barod i drafod opsiynau gyda Hitachi a phartneriaid eraill i ddod a phwerdy niwclear i ogledd Cymru.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau’n ymrwymedig i’r sector niwclear ac i ddod a ffyniant economaidd i ogledd Cymru.”

Fe gyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon ddoe (Ionawr 17) y bydd ei raglen i ddatblygu gorsafoedd niwclear yng ngwledydd Prydain – sy’n cynnwys yr un ym Môn – yn cael ei hatal yn sgil methiant y cwmni i ddod i gytundeb ynghylch cyllid.

Roedd disgwyl i’r prosiect ddod a miloedd o swyddi i Ynys Môn.