Mae Arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi mynegi ei “siom a phryder dwys” ynghylch y penderfyniad i ohirio’r cynlluniau ar gyfer Wylfa Newydd.

Fe ddaeth cyhoeddiad gan Pŵer Niwclear Horizon y bore yma (dydd Iau, Ionawr 17) fod y rhaglen i ddatblygu gorsafoedd niwclear yng ngwledydd Prydain – sy’n cynnwys yr un ar safle ym Môn – wedi’i hatal.

Y prif reswm am y gohirio, medden nhw, yw ansicrwydd cyllidol o amgylch y cynllun.

Mewn datganiad, mae’r Cynghorydd Llinos Medi Huws yn dweud ei bod hi’n dal yn “ffyddiog” y gall Hitachi a llywodraethau Siapan a Phrydain ddod i gytundeb a fydd yn galluogi’r cynllun i fynd yn ei flaen.

“Cysylltiad rheolaidd”

“Dw i mewn cysylltiad rheolaidd gyda Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Horizon,” meddai Llinos Medi Huws.

“Mae’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru, Ken Skates, er mwyn pwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod yr oediad yma’n cael ei oresgyn fel ein bod yn llwyddo i greu’r swyddi o safon a’r cyfleoedd i fusnesau, sydd wir eu hangen, am flynyddoedd i ddod.

“Er hyn,” meddai eto, “fy mhryder pennaf ydi’r effaith gaiff y penderfyniad yma ar ddynion a merched lleol sydd â’u gwaith dan fygythiad nawr oherwydd yr oediad, yn enwedig y rhai sydd wedi eu lleoli ar safle Wylfa Newydd yng Ngogledd yr Ynys.”