Cafodd y wasanaeth tan ei alw i Stryd Bangor ddoe (dydd Mercher, Ionawr 16) yn dilyn adroddiadau o “glec” ger siop goffi Costa a swyddfa’r gwerthwyr tai, Beresford Adams.

Fe gyrhaeddodd y gwasanaeth tân am 4.15yp, ac roedd y broblem wedi ei datrys erbyn 5.00 ar ôl i Scottish Power cael eu galw yno.

“Ffiws cylched byr” oedd wedi achosi’r glec meddai Gwasanaeth Tan Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd siopwyr eu rhybuddio i gadw draw o’r ardal am gyfnod neithiwr, ond mae’r ardal gyfan ar agor erbyn hyn.