Mae’r gwasanaethau brys yn ymateb i “glec” ar stryd fawr Bangor y prynhawn yma (dydd Mercher, Ionawr 16).

Yn ôl adroddiadau, fe ddaeth y sŵn o ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud rhwng swyddfa Beresford Adams a siop goffi Costa y ddinas.

Y gwasanaeth tân sy’n arwain yr ymchwiliad, meddai Heddlu Gogledd Cymru, ac mae’r digwyddiad wedi’i ddisgrifio fel “clec yn hytrach na ffrwydrad”. Maen nhw’n cadarnhau fod yr heddlu a’r gwasanaeth tân ar y safle hefyd.

Mae rhybudd i siopwyr gadw draw o’r ardal am y tro.