Pan mae Elin James Jones, yn meddwl sut y dylai hi egluro agwedd ar Brexit i bobol yn Llundain, fe fydd hi’n meddwl iddi’i hun, “Sut faswn i’n egluro hyn i Nain?”

Y ferch 28 o Fro Morgannwg yw ‘Swyddog Cydlynu a Chraffu ar Brexit’ yn San Steffan – swydd y mae hi’n dweud sy’n “newid o ddydd i ddydd”.

Mewn cyfnod o anghydweld a checru gwleidyddol mae hi a’i thîm o ymchwilwyr yn San Steffan wedi bod yn ceisio sicrhau bod y ffeithiau yn cael eu dweud, a bod cydbwysedd yn y ffordd y mae ffeithiau hynny’n cael eu rhannu a’u defnyddio.

Er mwyn gwneud hynny, gwaith Elin James Jones ydi cysylltu gyda’r Aelodau Seneddol, gwneud ymchwil ar Brexit, ac yna cyflwyno’r ffeithiau yn ddiduedd i wahanol adrannau a phwyllgorau.

“Ein dyletswydd ni ddoe (Ionawr 15) ar ddiwrnod y bleidlais, oedd cyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu’n prosesau cynghori ni i’r cyhoedd mewn modd mor glir â phosib,” meddai Elin James Jones wrth golwg360.

“Heddiw, gyda’r bleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth Theresa May, dw i’n meddwl, sut ydw i’n esbonio hyn i Nain? Ond mae hyn yn dod ag elfen greadigol i’r swydd sydd yn grêt i fi achos dyna dw i’n rili joio.

“Mae gyda ni nifer o bwyllgorau dethol ar draws y Senedd sydd fel arfer yn cynnwys tua 13 o aelodau seneddol o bob plaid. Mae Brexit wedi cyffwrdd â phob adran, felly dw i’n gyfrifol am gael trosolwg o’r holl dimau pwyllgorau gwahanol.”

Diplomydd

“Mae diplomyddiaeth yn rhan mor bwysig i’r swydd achos ry’ni yn rhoi gwasanaeth i bob aelod seneddol dim ots beth yw ei lliwiau gwleidyddol,” meddai Elin James Jones wedyn.

Fe fu hi’n fyfyrwraig Hanes a Gwleidyddiaeth yn St Andrew’s yn yr Alban cyn gwneud cwrs ôl-radd yn Ysgol Newyddiaduraeth, Prifysgol Caerdydd.

“Ein dyletswydd ni yw gwasanaethu’r aelodau etholedig yma ond yn amlwg er mwyn i’n papurau briffio ni gael eu defnyddio yn effeithiol mae’n rhaid  cael perthynas dda efo nhw fel pool.

“Rhywbeth dw i wedi mwynhau dipyn yw dod i ddeall y bobol tu ol i’r wleidyddiaeth a be’ maen nhw angen i wneud eu swyddi nhw yn well,” meddai wedyn.