Mae Gareth Wyn Jones, y ffermwr o Lanfairfechan, yn dweud bod datganiad Vince Cable am ddifa defaid ar ôl Brexit yn ymgais i godi ofn.

Mae’n cyhuddo arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol o “scaremongering” ar ôl iddo dynnu sylw at DEFRA yn dweud y byddai’n rhaid difa hanner diadell defaid gwledydd Prydain pe na bai cytundeb Brexit yn bosib.

“Mae o’n dorcalonnus,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n meddwl fod o’n scaremongering i raddau, ond dydi o ddim yn sefyllfa ideal fel ffarmwr defaid i glywed y pethau yma.

“Mae’r hyn rydan ni’n ei allforio i’r cyfandir yn bwysig iawn fel diwydiant, ac i ni fel teulu yn y mynyddoedd yma yn Llanfairfechan.

“Dw i wedi gweld difa anifeiliaid, yn 2000, adeg clwy’r traed a’r genau. Roedd o’n un o’r pethau mwyaf eithafol, afiach dw i erioed wedi’i weld a bod yn rhan ohono fo. Dw i byth isio’i weld o eto.

“Basa fo’n bechod mawr i’r llywodraeth ddifa hanner diadell Prydain, os ydyn nhw’n gwneud be’ maen nhw’n ddeud maen nhw’n mynd i’w wneud. Dw i ddim yn gwybod lle fasan ni’n ailgychwyn wedyn.”

‘Dydi hwn ddim am bolitics a phwyntiau’

Wrth ymateb i’r bleidlais gollodd Theresa May yn San Steffan neithiwr, mae Gareth Wyn Jones yn galw ar wleidyddion i gydweithio er lles amaeth yng Nghymru.

“Rhaid i ni gael strwythur a chytundeb yn gyflym iawn,” meddai. “Mae amser yn rhedeg allan.

“I fi, mae o i’w weld yn siop siafins yn y Senedd ac ym Mrwsel hefyd. Mae’n amser i bobol dynnu at ei gilydd a gwneud yn siŵr bo nhw’n cael y ddêl iawn i bobol sy’n gweithio ar y tir, i bobol sy’n gweithio mewn ffatrïoedd a busnesau.

“Dydi hwn ddim am bolitics a phwyntiau. Mae hwn am bobol, ac mae’n bwysig iddyn nhw ddallt hynna, fod hwn yn newid cefn gwlad Cymru tasen nhw’n mynd allan heb gytundeb.”

Profiad personol yn y mynyddoedd

Ac yntau’n ffermio yn y mynyddoedd, mae’n dweud bod gan ffermwyr yr ucheldir broblemau ychwanegol o ganlyniad i helynt Brexit.

“Dydi’r defaid yn eu cynefin ddim yn medru mynd i’r farchnad wedyn unwaith maen nhw wedi bod ar y mynyddoedd yma,” meddai.

“Maen nhw wedi’u cynefino ers blynyddoedd, bron i 350 o flynyddoedd yn yr ucheldir yma, ac maen nhw’n rhan o fyd natur, ecoleg y mynydd, ac yn rhan fawr o’r diwydiant.”