Mae dros 1,000 o swyddi siop Marks & Spencer yn y fantol wedi i’r cwmni gyhoeddi y bydd yn cau 17 o siopau – ac mae siop Cwmbrân yn eu plith.

Mi fydd y cynlluniau i gau yn effeithio ar gyfanswm o 1,045 o weithwyr.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o gynllun ehangach sy’n anelu i gau dros 100 o siopau ledled gwledydd Prydain dros y blynyddoedd nesaf.

O’r rhain, mae 30 wedi cau yn barod, ac mae enw 25 ohonyn nhw’n cynnwys y siopau sydd ar restr heddiw.

Dywed M&S y bydd yn cynnal cyfnod o ymgynghori gyda’r gweithwyr sy’n cael eu heffeithio, gyda’r bwriad o gadw cymaint â phosib ohonyn nhw ar y staff.

Hyd yn hyn, mae 1,891 o weithwyr wedi cael eu heffeithio gan y cau, ond mae’r cwmni’n dweud bod 1,591 ohonyn nhw – dros 80% – wedi cael swyddi eraill o fewn y cwmni.