Mae Aelod Cynulliad wedi ymuno ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor i alw ar Brifysgol Bangor i wneud yr iaith Gymraeg yn hanfodol wrth recriwtio ar gyfer Is-Ganghellor newydd.

Mewn llythyr at Fwrdd Rheoli’r Brifysgol, dywed Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon, ei bod hi’n hollbwysig bod y gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd.

Mae’r swydd yn cael ei hysbysebu yn dilyn ymadawiad y cyn Is-Ganghellor, John Hughes, a gamodd o’r neilltu ym mis Rhagfyr.

“Mae cysylltiadau Prifysgol Bangor â’r gymuned Gymraeg a Chymreig o’i chwmpas yn waelodol i’w hunaniaeth,” meddai’r llythyr.

“Mae’r cysylltiad yn un hanesyddol a dwfn a does dim rhaid i mi eich atgoffa am geiniogau chwarelwyr Bethesda a’r ardal a roddodd i’r Brifysgol ei bodolaeth yn y lle cyntaf nag am gewri ein llenyddiaeth a’n byd academaidd Cymraeg sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r sefydliad ers blynyddoedd.

“I gynnal yr ethos yma rhaid i bennaeth y sefydliad fedru siarad ein hiaith. Byddai unrhyw beth llai na hynny yn gam yn ôl yn sylweddol. Ym myd cystadleuol addysg uwch, rhaid i bob sefydliad ganfod a defnyddio arbenigedd a nodweddion unigryw.

“Y Gymraeg sy’n rhoi i Brifysgol Bangor ei naws arbennig ac unigryw. Rhaid adeiladu ar hynny a rhaid cael yr arweiniad digamsyniol hwnnw o frig y sefydliad.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Bangor am ymateb.