Mae tri pherson oedrannus yn yr ysbyty yn dilyn damwain draffig “ddifrifol” ger Hendy Gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, ddydd Sul (Ionawr 13).

Bu’r digwyddiad am 4yp ar ffordd yr A40 rhwng Pont-y-fenni a chylchfan Hendy Gwyn ar Daf, gyda’r gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta arian a BMW 120 arian.

Roedd y Ford Fiesta yn teithio i gyfeiriad Hendy Gwyn ar Daf, tra bo’r BMW yn teithio i’r cyfeiriad arall tuag at Gaerfyrddin.

Cafodd dynes 67 oed ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n fygythiol i’w bywyd, ac mae dyn 71 oed a dynes 68 oed hefyd yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.