Mae dyn 30 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad yn Ystrad Mynach ddydd Gwener diwethaf (Ionawr 11).

Mae’r dyn, o ardal Caerffili, hefyd wedi’i gyhuddo o ddau achos o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae disgwyl i’r dyn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd heddiw (dydd Llun, Ionawr 14).

Fe fu farw dyn 43 oed, Jason Clarke, o ardal Fleur-de-Lis yng Nghaerffili, yn y gwrthdrawiad  rhwng car Seat Leon du a fan Volkswagen Crafter llwyd.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un oedd yn gyrru ar hyd Heol Newydd yn Ystrad Mynach rhwng 8.15yh a 8.30yh nos Wener i edrych ar eu camerâu fideo dash-cam rhag ofn bod rhywbeth all helpu yn yr ymchwiliad.