Mi fydd ymchwil newydd yn dechrau ym Mhrifysgol Bangor a fydd yn canolbwyntio ar ffurfiau anghyffredin o dementia, gan gyffwrdd ar effaith iaith a chefn gwlad.

O dan arweiniad partneriaid yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), bydd ymchwilwyr yn gwneud hyn drwy astudio’n fanwl ar werth grwpiau cefnogi pobol sydd yn byw gyda math anghyffredin o’r cyflwr.

Tîm o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol fydd yn gwneud yr ymchwil.

Mae’n rhan o Fenter Ymchwil i Ddementia 2018 y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a Phrifysgol Bangor yw’r unig Brifysgol i gael arian yng Nghymru.

Pwysigrwydd

Mae tua chwarter o’r bobol sydd yn byw gyda dementia gydag un o’r ffurfiau llai cyffredin o’r cyflwr.

Y mathau yma sy’n fwyaf cyffredin ymhlith pobol ifanc, o dan 65 oed, sy’n aml mewn gwaith, yn gofalu am blant, ac yn talu am forgais.

Mae’n ymddangos nad yw’r bobol yma yn llwyddo i gael diagnosis cyflym, a bod y gwasanaethau sydd ar gael yn dilyn y diagnosis fel arfer yn methu a chyfarfod eu hanghenion.

Bydd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddygaeth (CHEME) yn arwain y dadansoddiad economaidd.

“Rydym yn falch iawn o allu cydweithio ar y rhaglen ymchwil yma i wella bywydau pobl sy’n byw â chyflyrau dementia anghyffredin,” meddai.

“Byddwn yn rhoi gwerth ar yr holl gostau a’r canlyniadau i bobol sy’n byw â dementia, teuluoedd, sydd yn aml yn ofalwyr anffurfiol, a gwasanaethau ffurfiol a thrydydd sector.”

Iaith a chefn gwlad

Bydd yr Athro Gill Twindle, yr arweinydd o Brifysgol Bangor, yn gweithio gyda Dr Mary Pat Sullivan, Prifysgol Nipissing yng nghefn gwlad Ontario, Canada, er mwyn cymharu eu darganfyddiadau.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd tîm yr Athro Windle yn datblygu a phrofi ffordd newydd o fesur gwydnwch pobl sy’n byw gyda dementia.

“Tynnodd ein hymchwiliadau cychwynnol sylw at absenoldeb amlwg ymchwil gyfoes a gwybodaeth am effaith dementia yng nghefn gwlad Cymru a Chanada,” meddai’r Athro Gill Twindle.

“Byddwn yn datblygu astudiaethau cymharol, gan adeiladu ar rai o’n cysylltiadau gwaith ardderchog â phobol sy’n byw gyda dementia er mwyn cael dealltwriaeth o’r newydd.”