Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru am sefydlu canolfan seibr gwerth £20m yn y Cymoedd.

Y cwmni datblygu technoleg fyd-eang, Thales, ynghyd â’r Llywodraeth – sydd wedi cyfrannu £10m yr un i’r prosiect – fydd yn gyfrifol am ei ddatblygiad.

Y Ganolfan Datblygu Ddigidol Genedlaethol (NDEC) fydd y cyfleuster ymchwil a datblygu cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Fe fydd Thales yn Blaenau Gwent yn gweithio ar y cyd gyda Phrifysgol De Cymru.

Pwrpas

Mae disgwyl i’r ganolfan helpu Cymru i fanteisio ar gyfleoedd byd-eang ym maes trawsnewid digidol ac wrth feithrin sgiliau a gwybodaeth busnesau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae gobaith y bydd busnesau bach a chanolig ac yn gallu profi a datblygu eu cysyniadau digidol yn ei sgil.

Ar ben hynny, bydd yn darparu labordy ymchwil fydd yn galluogi cwmnïau rhyngwladol i gyflawni datblygiadau technoleg fawr a byd ar ben cysylltu Cymru gyda chanolfannau technoleg ar draws y byd.

Bydd y ganolfan yn cael ei rheoli gan dîm bychan ac yn barod mae rhai ohonynt wedi’u recriwtio eisoes o’r gymuned leol.

Prifysgol De Cymru fydd yn gweithredu Athrofa Seibr Uwch y Ganolfan, fydd yn ofod ar gyfer ymchwil academaidd, a bydd Canolfan Addysg Ddigidol i feithrin sgiliau busnesau llai.

 “Ysgogi a chreu cyflogaeth”

Yn ôl Gareth Williams, Is Lywydd, Cyfathrebu Diogel a Systemau Gwybodaeth, Thales “bydd yn gonglfaen i’n galluoedd seibr ddiogelwch ni yn y DU” ac yn “gatalydd ar gyfer adfywiad yn y rhanbarth”.

“Bydd y cyfleuster hynod dechnegol a hygyrch yma’n ganolfan datblygiad ac addysg seibr a digidol, ac yn gyswllt rhwng De Cymru a chanolfannau technoleg mawr ledled y Deyrnas Unedig.”