Mae arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn dweud ei bod hi’n gofidio am ddyfodol yr ynys os ydi’r awgrym fod prosiect Wylfa Newydd yn y fantol yn wir.

Dywedodd cwmni Hitachi ddydd Gwener (Ionawr 11) nad oes “penderfyniad ffurfiol” ynghylch parhau â’r gwaith ar hyn o bryd.

Daw’r sylw gan Hitachi yn dilyn adroddiad yn y Nikkei Asian Review sy’n honni bod bwrdd y cwmni yn debygol o roi stop ar y gwaith ar safle’r Wylfa Newydd yr wythnos nesaf.

‘Newyddion trist iawn’

Mae Llinos Medi Huws yn dweud bod nifer o griwiau o bobol ifanc eisoes wedi dechrau ar brentisiaethau gyda’r prosiect, a’i bod yn gofidio amdanyn nhw â’u sicrwydd ar gyfer y dyfodol.

“Os ydi’r newyddion yn wir, mae’n amlwg yn newyddion trist iawn i Ynys Môn o ran dyfodol swyddi i’r bobol ifanc yr oedden ni’n gobeithio’u gweld yma,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna dri chriw o hogiau ifanc wedi mynd trwy [y broses o] gael prentisiaeth yn ddiweddar. Dw i’n nabod rhai sydd wedi dechrau ym mis Medi.

“Bydd 30 o hogiau’n barod i weithio yma yn Sir Fôn, felly mae’r effaith yn mynd i fod yn negyddol.

“Mae swyddi’n bodoli yma eisoes a bydd effaith negyddol i’r rheiny hefyd.”

Pynciau STEM yn fwy poblogaidd

Mae hi’n dweud bod datblygiad y prosiect wedi digwydd ar adeg pan fo gwyddoniaeth a phynciau tebyg yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith y to iau.

“Dw i’n meddwl beth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yma ydi fod lot o blant a phobol ifanc wedi dangos diddordeb yn y pynciau gwyddoniaeth – y pynciau STEM fel maen nhw’n cael eu galw – ac yn meddwl bod gyrfa’n mynd i fod yma yn Sir Fôn iddyn nhw.

“Ond mae rhywun yn bryderus iawn am beth fydd Ynys Môn fel ymhen degawd a mwy. Gobeithio nad ydi o’n wir.”

Gweithredu

Fe fydd y cyngor yn parhau i drafod y sefyllfa, meddai, ac yn gwybod mwy am ddyfodol y prosiect ar ôl i fwrdd rheoli Hitachi gyfarfod yr wythnos nesaf.

Ond mae hi’n galw ar lywodraethau Cymru a Phrydain i ystyried y sefyllfa’n ofalus.

“Does neb yn gwybod canlyniad y drafodaeth rhwng prif weinidog Japan a phrif weinidog Prydain yr wythnos ddiwetha’ chwaith,” meddai.

“Efallai y gallai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi hwb fach i San Steffan fod yn trafod y mater gyda mwy o ddifrifoldeb.”

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud bod yr adroddiadau’n “bryderus”.

“Dyma brosiect pwysig gyda buddion economaidd sylweddol i Gymru,” meddai llefarydd y Llywodraeth.

“Byddwn yn parhau i gadw golwg fanwl ar y sefyllfa a phwyso ar Lywodraeth Prydain i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i ddod â’r prosiect yma i Fôn.”