Mae teulu Steffan Lewis wedi diolch i’r cyhoedd am y gefnogaeth iddyn nhw yn dilyn marwolaeth Aelod Cynulliad Plaid Cymru ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Roedd wedi derbyn diagnosis o ganser yn Rhagfyr 2017, blwyddyn yn unig wedi iddo ddechrau cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Cynulliad.

Bu farw yn dawel yn Ysbyty Ystrad fawr yn Ystrad Mynach yn 34 oed.

Ef oedd llefarydd Materion Allanol Plaid Cymru, gyda chyfrifoldeb tros Brexit, materion allanol a rhyngwladol, a’r Cwnsler Cyffredinol.

‘Blanced mawr o gariad’

Wrth ddiolch i’r cyhoedd, dywedodd ei fam, Gail Davies fod “yna flanced mawr o gariad o’n cwmpas” yn dilyn y teyrngedau iddo.

“Diolch yn fawr iawn i bawb am eich negeseuon caredig i’n teulu ni am Steff,” meddai’r neges ar Twitter.

“Rwy’n teimlo bod yna flanced mawr o gariad o’n cwmpas yn sgil eich negeseuon chi.

“Maen nhw’n rhoi cysur mawr iawn i finnau, Neil, Shona, Nia, Sian, Dylan a gweddill y teulu.”