Mae chwech o bobol yn yr ysbyty ar ôl llwyddo i ddianc rhag tân mewn tŷ yn Bwcle yn Sir y Fflint.

Mae dynes yn ei 40au, dyn 26 oed, a thri bachgen a merch yn eu harddegau’n derbyn triniaeth am effeithiau mwg.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 4.50 fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 13), yn dilyn y tân yn y lolfa.

Roedd y chwech yn cysgu pan ddechreuodd y tân.

Doedd gan y teulu ddim larwm tân, yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, sy’n rhybuddio’r cyhoedd i wirio’u larwm yn rheolaidd.

Mae ymchwiliad ar y gweill.