Does dim achos i ddathlu’r ffaith eto fod ffoadur o’r Congo yn ei ôl yn Abertawe, yn ôl siop elusen Oxfam y ddinas.

Mae Otis Bolamu wedi cael dychwelyd am y tro, wrth i’w gais am loches gael ei ystyried.

Ond mae’r frwydr ymhell o fod wedi’i hennill, meddai llefarydd ar ran y siop lle mae’n gweithio.

Cefndir

Roedd yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei anfon yn ei ôl i’r Congo ar Ddydd Nadolig wedi diolch i gymuned Abertawe am eu cefnogaeth.

Cafodd Otis Bolamu ei arestio yn ei wely am 4 o’r gloch y bore ar Ragfyr 19, a’i gludo i ganolfan gadw yn Lloegr.

Roedd disgwyl y byddai’n gorfod dychwelyd i’w famwlad, ond mae wedi cael gwybod erbyn hyn y caiff aros am y tro, ac mae wedi dychwelyd i’r ddinas.

Roedd deiseb yn galw ar Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, i ymyrryd wedi denu dros 12,000 o lofnodion.

Fe fydd ei achos nawr yn cael ei ystyried unwaith eto.

‘Byw mewn gobaith’

“Rydym wrth ein boddau, ond yn sylweddoli nad yw’n dychwelyd gyda statws ffoadur ond yn hytrach, yn glir yn ein meddyliau fod y frwydr yn parhau,” meddai llefarydd ar ran y siop wrth golwg360.

“Dim ond ar ôl iddo gael y statws hwnnw y byddwn ni’n cael parti.”

Mae’n dweud nad oes sicrwydd ar hyn o bryd faint o amser y bydd yn ei gymryd i glywed ei achos o’r newydd, ond ei fod yn “obeithiol”.

“Rydyn ni wedi cael pobol yma sydd wedi aros hyd at chwech neu saith mlynedd, ac eraill wedi gorfod aros ychydig fisoedd yn unig. Does dim dal.

“Rydym yn obeithiol y bydd digon o dystiolaeth gan y gymuned leol er mwyn cefnogi ei gais y tro hwn.”