Fe fydd llyfr cydymdeimlad yn cael ei agor yn adeiladau’r Cynulliad ym Mae Caerdydd yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis yn 34 oed.

Bydd baneri ar adeiladau’r Cynulliad hefyd yn cael eu gostwng fel arwydd o barch.

Daeth y newyddion am ei farwolaeth o ganlyniad i ganser y coluddyn ddoe (dydd Gwener, Ionawr 11).

Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad Dwyrain De Cymru yn etholiad 2016.

Teyrnged y Llywydd

Wrth i’r byd gwleidyddol barhau i dalu teyrnged i Steffan Lewis, mae Elin Jones, Llywydd y Cynulliad yn dweud iddo ddangos “ymroddiad a dewrder mawr wrth barhau i wasanaethu pobol Dwyrain De Cymru trwy gydol ei salwch anodd”.

“Rwy’n hynod o drist o glywed am farwolaeth fy nghyfaill a’m cydweithiwr, Steffan Lewis,” meddai.

“Roedd ei ymrwymiad i wasanaethu a gweithio’n galed er mwyn gwella bywydau pobol Cymru wedi ennyn parch iddo ar draws ffiniau gwleidyddol, o fewn y Senedd y thu hwnt.

“Ni allaf gofio Aelod Cynulliad arall a oedd mor falch â Steffan o gael ei ethol i’w senedd genedlaethol. Mae’r ffaith i’w gyfnod fel Aelod brofi mor fyr yn golled enbyd i ni i gyd.

“Byddaf yn colli ei gyfeillgarwch a’i angerdd dros Gymru a’i blaid.

“Ar ran fy nghyd-Aelodau a’r rhai sy’n gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â’i deulu, ei gydweithwyr a’i etholwyr.”

‘Uchel ei barch ar draws y pleidiau gwleidyddol’

“Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Steffan Lewis,” meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru mewn datganiad.

“Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu a phawb oedd agosaf ato.

“Roedd Steffan yn Aelod Cynulliad dawnus ac ymroddgar, roedd e’n boblogaidd ac yn uchel ei barch ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac roedd ganddo fe ddyfodol disglair o’i flaen.

“Mae’n drasig ei fod e wedi mynd mor ifanc.

“Bydd colled ddiffuant ar ôl Steffan, a bydd gwleidyddiaeth Cymru’n dlotach o lawer hebddo.

“Mae ein meddyliau gyda ffrindiau a theulu Steffan ar yr adeg eithriadol o anodd hon.”