Bu farw Bethan Roper ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w phen wrth bwyso trwy ffenest trên ger Caerfaddon ar Ragfyr 1

Heddiw mae adroddiad Cangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd wedi datgelu bod sticer uwch ben y ffenest yn rhybuddio: “peidiwch â phwyso allan o’r ffenest pan mae’r trên yn symud”.

Roedd Bethan Roper, 28 oed, â’i phen allan o ffenestr ar ddrws y trên pan gafodd ei tharo gan frigyn coeden.

Roedd trên y Great Western Railwy yn gwibio 85 milltir yr awr ger Caerfaddon, wrth I Bethan Roper ddychwelyd o Lundain i Benarth ar ôl bod yn siopa gyda’i ffrindiau.

Gweithiodd Bethan Roper i elusen Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac roedd hi’n gadeirydd ar Sosialwyr Ifanc Caerdydd.

Fe ddywedodd ei thad, Adrian Roper, bod ei ferch wedi “mwynhau bywyd i’r eithaf wrth weithio’n ddiddiwedd ar gyfer byd gwell”.

Yn ôl Cangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd, bydd ymchwiliad llawn yn archwilio’r mesurau sydd mewn lle i “reoli risgiau o bobol yn pwyso allan o ffenestri trên”.