Mae merch fydd yn cystadlu yn ffeinal Miss Cymru 2019 wedi codi miloedd o bunnau i elusen sy’n helpu plant.

Daw Alice Walters o Gastellnewydd Emlyn ac mae’r ferch 22 oed wedi codi £40,00 i Bobath Cymru, elusen sy’n cynnig therapi i blant gyda pharlys yr ymennydd.

Hefyd, mae Alice Walters yn gwau pum blanced y mis ac yn eu rhoi i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Fel rhan o’i gweithgareddau  codi arian, sy’n rhan o gystadleuaeth Miss Cymru, mae hi’n trefnu taith gerdded i gopa mynydd Pen-Y-Fan yn ogystal â spinathon 10 awr.

Bydd yr elw o’r gweithgareddau hyn yn cael ei roi at elusen Miss World, Beauty With a Purpose – sy’n helpu plant o dan anfantais ar draws y byd.

Miss Cymru 

Mae Alice Walters yn un o 40 o bob cwr o Gymru fydd yn cystadlu am wobr Miss Cymru. Roedd 1,000 wedi ceisio am le yn y rownd derfynol.

“Mae’n wych gallu defnyddio fy mhrofiad Miss Cymru i helpu eraill,” meddai. Rwy’n cael llawer o hwyl yn cynllunio’r spinathon ac rwy’n falch iawn o’r holl gefnogaeth rydw i’n ei gael gan ffrindiau a theulu.

“Rwy’n gobeithio codi llawer o arian!  Fy uchelgais mewn bywyd yw newid y ’na allaf’ i ‘gallaf’ trwy edrych ar ochr bositif bywyd.”