Mae cwmni hedfan Flybe wedi cael ei achub gan gonsortiwm Virgin Atlantic a Grŵp Stobart mewn cytundeb gwerth £2.2m a fydd yn arwain at greu grŵp hedfan newydd.

Mae Flybe yn un o’r prif gwmnïau hedfan ym maes awyr Caerdydd

Mae Virgin Atlantic a Grŵp Stobart, ynghyd a Cyrus Capital Partners, wedi cytuno ar gynnig o un geiniog am bob cyfran ar gyfer Flybe, a oedd wedi cael ei roi ar werth ym mis Tachwedd.

O dan y cynlluniau, fe fydd y cwmni hedfan yn cael ei gyfuno gyda Stobart Air mewn menter ar y cyd a fydd yn cael ei alw’n Connect Airways.

Fe fydd Cyrus yn berchen ar 40% o’r cwmni newydd tra bod Virgin a Stobart yn berchen ar 30% yr un.

Mae’r tri chwmni wedi cytuno i roi £20m i helpu i gynnal gwasanaethau presennol Flybe gydag £80 miliwn yn cael ei roi i’r grŵp ar y cyd.

Dywedodd prif weithredwr Flybe, Christine Ourmieres-Widener, bod y cwmni wedi cael ei orfodi i ddod o hyd i brynwr oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys costau tanwydd uwch, a’r ansicrwydd ynghylch Brexit, sydd wedi effeithio ar ei berfformiad ariannol.