“Rhyddid o’r wladwriaeth Brydeinig adweithiol yw’r unig beth all wir sicrhau ffyniant parhaol i gymunedau Cymru.”

Dyna safbwynt mudiad newydd a fydd yn cael ei lansio yng Ngheredigion ar ddiwedd y mis.

‘Undod’ yw ei enw a’i nod yw ymgyrchu tros annibyniaeth i Gymru, a’r “materion allweddol sy’n achosi dioddefaint ac anghyfiawnder”.

Bydd y lansiad, ynghyd â gweithdy am ‘sosialaeth a’r cwestiwn cenedlaethol’, yn digwydd yn yr Hen Goleg yn nhref Aberystwyth,

Ymhlith y siaradwyr fydd yn cymryd rhan mae’r academydd, Nia Edwards-Behi; yr ymgyrchydd,  Sandy Clubb; a’r cyflwynydd radio, Dan Evans.

“Undod”

“[Gyda’r] bygythiad cynyddol o’r adain dde eithafol yng Nghymru a thu hwnt, ni all y rhai sy’n credu mewn cydraddoldeb, cyfiawnder a dyfodol cynaliadwy sefyll [o’r] neilltu,” meddai’r ymgyrchydd Sel Williams.

“Ni allwn adael ein pobol yn ysglyfaeth i’r wladwriaeth Brydeinig lygredig, na chwaith caniatáu i siofinyddiaeth wleidyddol elitaidd wreiddio yma…

“Mae’n hen bryd i ni, pobol Cymru, uno, er mwyn gwireddu i ni’n hunain yr egwyddorion hynny rydym yn hanesyddol wedi sefyll drosto yn y byd: cydraddoldeb, cyfiawnder a heddwch.

“Felly dewch gyda ni, i gydsefyll – mewn Undod.”