Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe eisiau creu peiriant fydd yn gallu dyfalu beth sy’n gwneud person yn atyniadol i bobol arall.

Yn ôl ymchwil sy’n bodoli’n barod, mae ffactorau fel hiwmor, cryfder, deallusrwydd a chreadigrwydd yn chwarae rhan ganolog.

Ond mae Andrew Thomas a Alex Jones o’r coleg yn Abertawe yn honni bod y rhain yn aml yn cael eu hystyried ar eu pennau eu hunain, ac yn cyfyngu ar y posibiliadau.

O ganlyniad, mae’r darlithwyr, sy’n gweithio yn adrannau Seicoleg a Niwrowyddoniaeth yn y brifysgol, eisiau mynd gam ymhellach.

Targed y prosiect

Maen nhw’n rhagdybio – pan fydd mwy nag un o’r ffactorau yn y mics – y bydd rhai yn bwysicach na’r lleill.

Maen nhw’n awyddus i brofi hyn drwy fesur nodweddion gwirfoddolwyr cyn cyfrifo pa nodweddion sy’n darogan eu hanes rhywiol, neu pa mor atyniadol maen nhw’n eu gweld eu hunain.

Y nodweddion hyn fyddai creadigrwydd, hiwmor, deallusrwydd, caredigrwydd, personoliaeth, ysgogiad, statws cymdeithasol, llais, lefel testosteron, cymesuredd y wyneb, cryfder, braster cord, uchder a chymhareb y wast i’r glun.

Maen nhw’n gwahodd pobol i ddysgu mwy am y prosiect, ac i ystyried cyfrannu arian.